Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2015
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Llywodraeth Leol
(Cymru)
1. Ar 26 Ionawr 2015, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Llywodraeth Leol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 9 Rhagfyr 2015, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 20 Ionawr 2015, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 8 Mai 2015.
4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 3 Gorffennaf 2015, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.